P-04-653 Gwahardd y Defnydd o Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau yng Nghymru
Manylion:
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod:
- Yn credu na all anghenion cymhleth anifeiliaid gwyllt gael eu bodloni'n ddigonol mewn amgylchedd syrcas;
- Yn nodi bod anifeiliaid gwyllt yn parhau i wynebu'r posibilrwydd o fywyd mewn amgylchedd syrcas anaddas yng Nghymru;
- Yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwaharddiad llwyr ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yn cael ei gyflwyno yng Nghymru cyn gynted ag y bo modd.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae rhagor o wybodaeth am waith RSPCA Cymru i roi terfyn ar y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru ar gael yma: http://politicalanimal.wales/wild-animals-circuses-wales/
Mae defnydd anffurfiol yn brawf o iaith fyw.
Prif ddeisebydd: RSPCA Cymru
Ystyriwyd
gan y Pwyllgor am y tro cyntaf:
20
Hydref 2015
Nifer y deisebwyr:517 o lofnodion ar wefan y Cynulliad rhwng 15 Mai a 9 Hydref 2015. Casglwyd 7,268 llofnod ychwanegol drwy wefan RSPCA Cymru a thrwy ddulliau eraill gan wirfoddolwyr y Gymdeithas.